Llun o Broadlands Pottery

Broadlands Pottery

Sefydlwyd cwmni Crochenwaith Broadlands yn Sir Gaerloyw wledig ym mis Rhagfyr 2012 pan benderfynodd Cheryl Haines, perchennog y busnes, droi ei diddordeb i mewn fusnes llawn amser. Cychwynasom drwy fynychu marchnadoedd misol lleol ac erbyn hyn mae'r cwmni yn gwerthu eu cynnyrch unigryw mewn siopau ar draws y wlad ac maent bellach wedi datblygu i mewn i fusnes llwyddiannus ac adnabyddus iawn.

Mae pob darn wedi'i wneud â llaw ac wedi ei orffen i'r safon uchaf ac maent yn gweithio gyda dylunwyr newydd o hyd er mwyn creu casgliadau newydd a gwreiddiol yn cynnwys patrymau unigryw.

Busnes teuluol yw Broadlands o hyd, gan fod y perchennog, Cheryl, yn cael ei chynorthwyo gan ei chwaer Sharon, a'i thad Alan.

Mae'r cwmni yn gwerthu bunting sy'n cynnwys llythrennau a phatrymau mewn detholiad o liwiau sy'n gwneud anrhegion personol arbennig yn ogystal â rhywbeth i arddangos yn eich cartref eich hunan. Maent hefyd yn cynnig placiau personol ar gyfer teuluoedd a nwyddau unigryw fel pedolau wedi'u creu yn arbennig i chi. Mae'n sicr y bydd rhywbeth yma sy'n apelio at bawb.