Llun o A Northern Light

A Northern Light

Mae A Northern Light yn gwmni sydd wedi’i sefydlu ym Manceinion. Mae holl syniadau am ddyluniadau’r cynnyrch yn dod o gariad perchennog y busnes, Claire, tuag at natur, patrymau a graffeg. Er fod Claire wedi tyfu i fyny yn caru peintio, celf a chreu pethau, teimlai ei hun yn cael ei thynnu dro ar ôl tro at ddarlunio. Daeth y syniad ar gyfer y busnes ac o greu cynnyrch ei hun iddi yn fuan ar ôl i Claire fynychu cwrs dylunio graffeg. Sylweddolodd ei bod hi’n hoff iawn o gyfuno ei harlunio gyda dylunio graffeg, felly cychwynnodd drwy greu cardiau a phrintiau.

Ar ôl llwyddiant y cynhyrchion cychwynnol, roedd awydd arni i ddylunio rhywbeth 'go iawn' y byddai’n gallu cael ei arddangos yn y ty a dod yn rhan o'i bywyd dyddiol hi a’i chwsmeriaid. Dyna le ddaeth y syniad o arbrofi drwy roi ei darluniau ar lampau. Unwaith yr oedd ganddi'r wybodaeth sylfaenol i wneud goleuadau, cychwynnodd drwy archebu deunyddiau a chydrannau gwahanol er mwyn ehangu ei busnes.

Mae holl gynhyrchion A Northern Light wedi’u gwneud â llaw felly mae sicrwydd fod pob eitem wedi’i greu i’r safon uchaf. Maent yn gwerthu cardiau, printiau, lampau, lamplenni a gorchuddion canhwyllau, ac maent ar gael mewn dewis o batrwmau hardd a lliwiau trawiadol, sy’n golygu bydd rhywbeth yn apelio at bawb!

http://www.anorthernlight.net/