Casgliad Tregaron

Mae’n bwrw glaw allan,
Mae’n hindda’n y ty.
Mae merched Tregaron
Yn nyddu gwlan du.

Mae’r hwiangerdd fach hon, sy’n adnabyddus drwy Gymru, yn mynd a ni nol i gyfnod pan oedd Tregaron yn dre farchnad fywiog a’r bobl yn gwau sanau gwlan i ennill bywioliaeth. Gwerthid y sanau ym marchnadoeddde Cymru, lle’r oedd y diwydiant mwyno glo ar ei dyfiant, ac roedd sanau o wlan du yn boblogaidd iawn ymhlith y glowyr (am resymau digon amlwg!)