Canolfan Rhiannon
Oriau Agor:
Ebrill – Medi, Mawrth i Sadwrn, 9.30 – 5.30
Hydref - Rhagfyr, Mawrth i Sadwrn, 10.00 – 5.00
Ionawr 10fed - Ionawr 31ain:
Mawrth & Mercher, drwy apwyntiad a chloch y drws yn unig, 10.00 – 4.00
Iau i Sadwrn, 10.00 – 4.00
Chwefror - Mawrth, Mawrth i Sadwrn, 10.00 – 4.00
Ar gau ar Dydd Nadolig, Dydd San Steffan, rhwng Dydd Calan a Ionawr 9fed, ac ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Byddwn ni hefyd yn agor yn hwyr ar rai adegau yn ystod yr haf - galwch yn ôl neu ddilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.
Mae Canolfan Rhiannon wedi ei leoli yng nghalon tref fechan Gymreig Tregaron, yng nghanol golygfeydd ysblennydd cors Caron a Mynyddoedd Cambria. Dewch o hyd i ni yma. Mae'r Ganolfan yn cynnig llwyfan rhagorol ar gyfer popeth sydd orau mewn gemwaith Cymreig, y celfyddydau gweledol a chrefftau cain. Sefydlwyd y ganolfan ym 1971 gan Rhiannon Evans, dylunydd gemwaith sydd ag enw da yn rhyngwladol am ei dehongliadau gwreiddiol ac unigryw o'r traddodiadau artistig Cymreig a Cheltaidd.
O fewn Canolfan Rhiannon y mae:
Canolfan Aur Cymru Rhiannon, sy'n cynnwys ystafell arddangos arbennig, a gweithdai arddangos lle y gallwch weld ein gemyddion wrth eu gwaith.
Canolfan Cynllun Crefft Cymru Rhiannon, sy'n drysorfa o grefftau cain, nwyddau cartref unigryw a bwydydd lleol blasus, o gofroddion heddiw i ddarnau etifeddol y dyfodol.
Oriel Rhiannon, sy'n arbenigo mewn artistiaid Cymraeg a rhai sy’n byw yng Nghymru, gan gyfuno sioeau unigol a rhai grŵp mewn amrywiaeth o gyfryngau.
Amgueddfa Rhiannon, casgliad o greiriau Celtaidd sy'n dilyn esblygiad celfyddyd y Celtiaid hyd at heddiw.