DIGWYDDIADAU BYW

Yng Nghanolfan Rhiannon, Tregaron

Gan ddechrau yn 2022, yr ydym yn lawnsio rhaglen o ddigwyddiadau blynyddol, i gymryd lle ar y prif Wyliau Celtaidd. Bydd rhain yn cynnwys sgyrsisu a chyflwyniadau arbenigol ar destunau megis traddodiadau gwerin Cymreig, Celfyddyd Geltaidd - hen a newydd, Oes y Saint, teuluoedd bonedd Gorllewin Cymru, a thradodiadau hynafol sydd wedi goroesi yn ein iaith a’n bywyd.

Dechreuwn gyda Noson Agored Breifat ar Dachwedd 4ydd 2022, 6:00 - 8:00 i ddathlu Calan Gaeaf/Samhain, pan fydd yr awdur lleol Jane Blank yn trafod ei nofelau hanesyddol poblogaidd, sydd wedi ei hysbrydoli gan hanes plas ac ystad Nanteos, a bydd Rhiannon yn cyflwyno detholiad o’i chynlluniau gemwaith gyda thema dymhorol. Bydd cyfle hefyd i sgwrsio gyda’r gemyddion a thrafod unrhyw emwaith penodol sydd gennych mewn golwg ar gyfer y Nadolig. Darperir lluniaeth ysgafn tymhorol.

Cysylltwch â ni ar 01974 298 415 neu drwy [email protected] i archebu lle.