Llun o Mclaggan Smith Mugs

Mclaggan Smith Mugs

Mae Mclaggan Smith Mugs Ltd yn gwmni teuluol o Orllewin yr Alban. Nhw yw cwmni mwyaf blaenllaw y DU am argraffu ac addurno mygiau tsieini esgyrn wedi'i comisiynu neu'i personoleiddio ac maent wedi ennill gwobrau am eu gwaith.

Sefydlwyd y busnes ym 1974 gan Wally Mclaggan Smith mewn garej yn Helensburgh. Blwyddyn yn ddiweddarach symudodd y cwmni saith milltir i Jamestown ar begwn deheuol Loch Lomond. Wedi sawl estyniad i'r adeilad dros y blynyddoedd, mae'r cwmni'n parhau i weithio o'r ffatri hon hyd heddiw. Mae pob mwg yn cael ei argraffu a'i addurno yma yn y DU gan ein staff siriol, gweithgar, medrus a phrofiadol.

Mae ein mygiau tsieini esgyrn yn fwy cain na mygiau priddwaith a phorslen cyffredin sy'n eu gwneud yn fwy pleserus i yfed ohonynt. Mae ansawdd tsieini esgyrn yn wynach na'r deunyddiau eraill sy'n gwneud i'r lliwiau ymddangos yn fwy llachar a chlir. Mae tsieini esgyrn hefyd yn goroesi'n well am ei fod yn gryfach.