Gwasg Gwynfil
Roedd gan Gymru draddodiad cryf o gyhoeddi llyfrau drwy danysgrifiad tan yn weddol ddiweddar. Ysbrydolwyd Gwern Evans, sylfaenydd Gwasg Gwynil, i ddychwelyd at y dull traddodiadol hwn wrth fentro i’r byd cyhoeddi. Mewn adwaith fwriadol i ddigideiddio, mae’r llyfrau i gyd yn rhai clawr caled, wedi eu hargraffu ar bapur o ansawdd uchel ac mewn niferoedd isel. Rhwymwyd pob cyfrol o’r cyhoeddiad cyntaf, Hud Afon Arth, â llaw gan Blair Bookbinding yn Aberystwyth gan ddefnyddio deunyddiau o’r ansawdd uchaf. Dyluniwyd y gyfrol i fod yn wrthrych hardd - teyrnged deilwng i’w chynnwys sy’n cyfuno celf, barddoniaeth a thraethodau llenyddol. Y nod yw parhau i fugeulio’r manylion, yr ansawdd a’r cynnwys yn ddiwyd er mwyn creu llyfrau cain y bydd pobl am eu darllen a’u cadw.
Mae tanysgrifio i un o gyhoeddiadau Gwasg Gwynfil yn ffordd o ddod yn rhan o lyfr, yn llythrennol. Nid yn unig i weld eich enw mewn print, ond i atgoffa’r cenhedlaethau sydd i ddod eich bod wedi cefnogi’r cyhoeddiad. "Bob tro y byddaf yn darganfod fy nheulu wedi eu rhestru fel tanysgrifwyr mewn hen lyfr, bydd yn codi gwên ar fy ngwyneb oherwydd y cysylltiad personol ychwanegol." Gobeithio y bydd Gwasg Gwynfil yn medru gwneud yr un peth dros filoedd o blant ac wyrion y dyfodol!