Llun o Efydd David Meredith Bronze

Efydd David Meredith Bronze

Er iddo gael ei eni a’i fagu yng Nghaerliwelydd yn Lloegr rydym yn hyderus bod tras Cymraeg i artist a’r enw Dai Meredith. Astudiodd yng Ngholeg Celf y ddinas gyda’r bwriad o ddod yn ddarlunydd. Serch hynny arweiniodd cyfarfod siawns iddo ddilyn gyrfa cychwynnol yn y diwydiant piwtar. Gan ddechrau fel prentis modeli, gan weithio i fanylder eithaf i greu eitemau i’r diwydiannau gemwaith a nwyddau anrheg, cafodd ei ddwyn ymaith o ddarlunio i fyd cerflunio.

Ymhen dwy flynedd fe oedd pennaeth cerflunio Alchemy Carta ond penderfynodd ei bod hi’n amser mynegi ei hunan fel cerflunydd. Aeth amdani a dechrau arddangos ei waith mewn orielau a chyflawni comisiynau preifat. I sicrhau incwm yn y blynyddoedd cynnar parhaodd i weithio yn annibynnol i eraill gan gerflunio llawer o eitemau i arweinwyr y diwydiant anrhegion yn ystod y cyfnod.

Erbyn heddiw mae David wedi bod yn gweithio fel cerflunydd proffesiynol ers dros 20 mlynedd. Mae wedi byw yn Affrica, Asia ac America gan gymryd ysbrydoliaeth o bobman ond yn ddiweddar bywyd gwyllt sydd wedi tynnu ei sylw, a hynny trwy gyfrwng efydd yn bennaf. Credwn ni yma yn Rhiannon ei fod yn un o gerflunwyr bywyd gwyllt gorau’r Deyrnas unedig ar hyn o bryd, ac rydym wrth ein bodd bod ei waith ymysg ein casgliad.

www.david-meredith.com